Ynglŷn WARU
Mae llawer o’r problemau iechyd y mae cymdeithas heddiw yn eu hwynebu yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn disgwyliad oes ac ochr yn ochr â hyn ceir cynnydd mewn cyflyrau iechyd cronig. Bob wythnos mae straeon yn y newyddion lleol a chenedlaethol sy’n ymwneud â’r cynnydd mewn clefyd y siwgr, clefydau cardiofasgiwlar a phroblemau gwybyddol, a’r baich mawr y mae’r rhain yn eu rhoi ar y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Mae ymchwil dros nifer o flynyddoedd wedi dangos manteision amlwg gwneud newidiadau i ffordd o fyw ar gyfer llawer o’r problemau iechyd hyn. Mae’r ymchwil hwn wedi cynnig argymhellion ynghylch faint o fwyd ac alcohol y dylid ei fwyta/yfed, a’r lefelau o weithgarwch corfforol, ond dim ond un oedolyn mewn tri sy’n bwyta pump neu fwy o gyfrannau o ffrwythau a llysiau bob dydd, a dim ond un oedolyn mewn pedwar sy’n cwrdd ag isafswm yr argymhelliad ar gyfer gweithgarwch corfforol bob dydd (Arolwg Iechyd Cymru, 2015).

Our Mission
Er mwyn i ni allu deall yn well sut i drosi’r canllawiau dietegol a gweithgarwch corfforol yn newid go iawn o fewn y boblogaeth yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio’r Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU). Diben yr uned yw hyrwyddo ymchwil yn ymwneud ag iechyd a lles o fewn y Brifysgol drwy feithrin cysylltiadau â’r gymuned leol a darparu cyfleuster i gwrdd ag aelodau o’r cyhoedd a’u galluogi i gyfrannu at y broses ymchwil.
Byddwn yn cyhoeddi prosiectau wrth iddynt gael eu rhoi ar waith drwy ein cyfrifon Facebook a Twitter a thudalennau’r wefan.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiectau ymchwil cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffôn.
360º Taith
Sefydliadau Partner a Chydweithwyr

Y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig
MaeCanolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn manteisio ar ei lleoliad, yng nghanol cymuned wledig y Canolbarth, i gynnal gwaith arloesol a fydd yn creu effaith ac a fydd yn dylanwadu ar ddarpariaeth gofal iechyd yng nghefn gwlad, yn nawr ac i'r cenedlaethau a ddaw.

Adran Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda